SL(6)306 – Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2022
Cefndir a diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro gwallau a nodwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ei adroddiad ar Reoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 ("y Rheoliadau Gwreiddiol"). Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud y canlynol:
· Diddymu'r Rheoliadau Gwreiddiol; ac
· Ail-wneud y diwygiadau perthnasol o ran gweithredadwyedd i Reoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 a Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017.
Gweithdrefn
Negyddol
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Nodwn y torrir y rheol 21 diwrnod (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a'r esboniad am dorri’r rheol, a ddarparwyd gan Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, mewn llythyr at y Llywydd dyddiedig 15 Rhagfyr 2022.
Yn benodol, nodwn y canlynol yn y llythyr:
“Y rheswm dros beidio â chadw at y confensiwn 21 diwrnod yn yr achos hwn yw bod y Rheoliadau'n cael eu gwneud gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a bydd y pwerau hyn yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2022. O’r herwydd, mae angen i’r Rheoliadau ddod i rym erbyn 31 Rhagfyr.”
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron y Senedd ar gyfer sifftio o dan baragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A. Trafododd y Pwyllgor y drafft hwnnw ar 12 Rhagfyr 2022, a chytunodd mai’r weithdrefn negyddol oedd y weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn.
3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Ni chynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn hyn o beth, nodir y frawddeg a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:
“Gan mai mân gywiriadau oedd i’r Rheoliadau, ni ddigwyddodd ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
22 Rhagfyr 2022